Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Hawliau Dynol
Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a Chyfarfod Arferol
11 Gorffennaf 2023 – ar-lein drwy Zoom
Cofnodion
Yn bresennol (noder, cynhaliwyd y cyfarfod yn rhithwir a chollodd rhai aelodau o’r grŵp gysylltiad â’r cyfarfod, felly roedd oedd yn anodd cofnodi pawb a oedd yn bresenol a pha sefydliad roeddent yn ei gynrychioli).
Sioned Williams AS – Cadeirydd Simon Hoffman – Ysgrifennydd Cefin Campbell AS Andrew Jenkins – Swyddfa Sioned Williams AS Charles Whitmore Adele Rose-Morgan Rhian Davies – Anabledd Cymru Anwen Jones – Cyngor ar Bopeth Bethan Davies Cath Davies – Cŵn Tywys Cymru David Rowlands – Tai Pawb Hayley Richards – Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru Jackie Jones Ioan Bellin – Swyddfa Rhys ab Owen AS Jennifer Downie – Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol Jessica Laimann – Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru Kathy Riddick Melissa Wood – Barnardo's Cymru Nicole Evans – Sefydliad Gwahardd Arfau Cemegol Patience Bentu – Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol |
Rhian Croke Robert Moore Ross Thomas – Tai Pawb Sam Williams – Anabledd Dysgu Cymru Tanya Harrington Will Davies
|
AGENDA a CHOFNODION
1 – Croeso.
2 – Cytuno ar gofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar y cofnodion heb unrhyw ddiwygiadau.
3. Busnes Ffurfiol - Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol
Cafodd Sioned Williams AS ei henwebu fel cadeirydd gan Cefin Campbell AS. Ni chafwyd unrhyw enwebiadau eraill. Cytunodd y grŵp trawsbleidiol mai Sioned Williams AS fyddai’r cadeirydd tan y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol nesaf.
Cynigwyd Simon Hoffman (yn cynrychioli Prifysgol Abertawe) gan Sioned i wasanaethu fel ysgrifennydd y grŵp trawsbleidiol am y 12 mis nesaf. Cytunodd y grŵp trawsbleidiol.
Nodwyd a chytunwyd nad yw'r grŵp trawsbleidiol wedi mynd i unrhyw gostau ers y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol diwethaf.
4. Y wybodaeth ddiweddaraf am waith y Gweithgor Opsiynau Deddfwriaethol
Clywodd y grŵp trawsbleidiol y wybodaeth ddiweddaraf am waith y Gweithgor Opsiynau Deddfwriaethol gan Charles Whitmore, cadeirydd y gweithgor. Roedd y pwyntiau allweddol a wnaed fel a ganlyn:
Amlinellodd Charles gefndir y Gweithgor Opsiynau Deddfwriaethol ac amlinellodd ei gylch gorchwyl. Yn gryno, bydd y gweithgor yn gwneud cynigion i Lywodraeth Cymru eu hystyried yn gysylltiedig ag ymgorffori hawliau dynol rhyngwladol mewn cyfraith ysgariad. Hysbysodd Charles y grŵp trawsbleidiol fod y Gweithgor Opsiynau Deddfwriaethol wedi gwneud llawer o waith dadansoddi ac wedi ymgysylltu â rhanddeiliaid o Grŵp Cynghori Prif Weinidog yr Alban ym maes hawliau dynol. Dywedodd fod y Gweithgor Opsiynau Deddfwriaethol yn ddiweddar wedi cwblhau ei adroddiad cychwynnol. Yn anffodus, nid oedd Charles yn gallu mynd i ragor o fanyldeb gan nad yw’r adroddiad wedi’i drafod gan Grŵp Cynghori Llywodraeth Cymru ynghylch Hawliau Dynol eto. Fodd bynnag, roedd yn gallu rhoi gwybod i’r grŵp trawsbleidiol fod y Gweithgor Opsiynau Deddfwriaethol yn edrych ar ymgorffori hawliau dynol yn llawn lle bo modd o fewn cymhwysedd datganoledig, gan roi sylw dyledus i drefniadau ‘backstop’ os nad yw’n bosibl ymgorffori’r hawliau hyn yn llawn. Hefyd, dywedodd Charles wrth y grŵp trawsbleidiol fod y Gweithgor Opsiynau Deddfwriaethol yn archwilio ymgorffori holl gytundebau craidd y Cenhedloedd Unedig yn ogystal ag egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar bobl hŷn, a hawl bwrpasol i amgylchedd iach. Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhaodd Charles na fyddai’r Gweithgor Opsiynau Deddfwriaethol yn cyfyngu ei hun i gonfensiynau'r Cenhedloedd Unedig ond y byddai hefyd yn trafod confensiynau eraill, gan gynnwys cytuniadau Cyngor Ewrop. Dywedodd Charles wrth y grŵp fod y Gweithgor Opsiynau Deddfwriaethol ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar ddatblygu methodoleg ar gyfer asesu a oes modd ymgorffori cytuniadau penodol o fewn cymhwysedd datganoledig ai peidio. Hefyd, rhoddodd y wybodaeth ddiweddaraf i’r grŵp am yr amserlen ar gyfer gwaith y Gweithgor Opsiynau Deddfwriaethol - a nododd ei bod yn ymddangos yn annhebygol y bydd y gwaith hwn yn cael ei gwblhau mewn pryd i ddeddfwriaeth gael ei chyflwyno yn ystod tymor presennol y Senedd. Mynegodd aelodau’r grŵp trawsbleidiol eu siom ynghylch yr oedi hwn, ond cydnabu hefyd ei bod yn bwysig i’r gwaith gael ei wneud yn drylwyr, yn enwedig i sicrhau cyn lleied â phosibl o risg o her gyfreithiol gan Lywodraeth y DU.
5. Nodi safbwynt Llywodraeth y DU ar ddiwygio Deddf Hawliau Dynol 1998
Nododd y grŵp trawsbleidiol fod Llywodraeth y DU wedi cadarnhau na fydd yn bwrw ymlaen â’i chynigion i ddiwygio Deddf Hawliau Dynol 1998. Er bod y grŵp trawsbleidiol yn croesawu’r newid safbwynt hwn, gan fynegi cryn ryddhad, nododd hefyd ei bod yn ymddangos bod rhai unigolion o fewn y Blaid Geidwadol yn cynnig y dylai’r DU dynnu’n ôl o Gyngor Ewrop a’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, ac y dylai’r camau hyn fod yn gynnig maniffesto ar gyfer yr etholiad nesaf.
Gyda'r uchod mewn golwg, gofynnodd y grŵp trawsbleidiol i'r cadeirydd ysgrifennu ar fyrder i Weinidogion Cymru i’w hannog i fwrw ymlaen â chamau i wella amddiffyniadau o ran hawliau dynol yng Nghymru, gan gynnwys drwy Fil Hawliau Dynol (Cymru).
Cytunodd y Cadeirydd.
6. Trafod ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru
Nododd y grŵp trawsbleidiol fod Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn ymgynghori ar strategaeth tlodi plant ddrafft, ar yr hawl i dai digonol ac ar system dribiwnlysoedd newydd i Gymru. Awgrymodd Sioned, a chytunodd y grŵp trawsbleidiol, y byddai'n briodol i'r grŵp gyfrannu at ymgynghoriadau lle bo hawliau dynol yn berthnasol. Fodd bynnag, o ran y strategaeth tlodi plant a thai digonol, nodwyd bod y dyddiadau cau ar gyfer yr ymgynghoriadau hyn (mis Medi) yn ei gwneud yn annhebygol y bydd modd llunio ymateb gan y grŵp trawsbleidiol. Awgrymodd Sioned, felly, y gallai cyfarfod nesaf y grŵp trawsbleidiol ganolbwyntio ar lunio cyflwyniad yn ymwneud â’r system dribiwnlysoedd newydd i Gymru.
7. Unrhyw fusnes arall
Dim.
8. Dyddiad y cyfarfod nesaf
I'w gadarnhau.
Cofnodion wedi eu llunio gan Simon Hoffman
I nodi unrhyw gywiriadau, dylid cysylltu â: s.hoffman@swansea.ac.uk